2015 Rhif 1388 (Cy. 137)

TRYDAN, Cymru

Rheoliadau Safon Perfformiad Allyriadau (Gorfodi) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Pennod 8 o Ran 2 o Ddeddf Ynni 2013 (“y Ddeddf”) yn gosod dyletswydd, “y ddyletswydd terfyn allyriadau”, ar weithredwyr gweithfeydd tanwydd ffosil sydd wedi cael caniatâd cynllunio ar neu ar ôl 18 Chwefror 2014, i sicrhau nad yw eu hallyriadau carbon deuocsid blynyddol y gellir eu priodoli i danwydd ffosil yn uwch na swm (“y terfyn allyriadau”) a bennir yn ôl fformiwla a nodir yn adran 57(2) o’r Ddeddf.

Mae Rheoliadau Safon Perfformiad Allyriadau 2015 yn gwneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer cymhwyso’r ddyletswydd terfyn allyriadau yn y Deyrnas Unedig. Maent yn ymestyn cymhwysiad y ddyletswydd terfyn allyriadau i gynnwys unedau cynhyrchu sydd wedi gosod prif foeler newydd yn lle’r hen un neu wedi gosod boeler ychwanegol; maent yn addasu’r terfyn allyriadau pan fo amgylchiadau penodol yn gymwys yn ystod blwyddyn; maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan ddylid ystyried bod gwaith nwyeiddio yn gysylltiedig â gwaith tanwydd ffosil perthnasol; maent yn esemptio unedau cynhyrchu sydd â system dal a storio carbon gyflawn o’r ddyletswydd terfyn allyriadau; maent yn nodi pa allyriadau sy’n berthnasol wrth benderfynu a yw gwaith tanwydd ffosil wedi torri’r ddyletswydd terfyn allyriadau ac maent yn darparu ar gyfer gostyngiad yn y terfyn allyriadau i weithfeydd tanwydd ffosil sy’n weithfeydd gwres a phŵer cyfunedig.

Mae’r Rheoliadau hyn yn creu trefn fonitro a gorfodi i Gymru, mewn perthynas â’r ddyletswydd terfyn allyriadau.

Mae rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau.

Mae rheoliad 3 yn nodi’r amgylchiadau pan fo rhaid i weithredwr gwaith tanwydd ffosil roi hysbysiad i CANC. Rhaid i’r hysbysiad nodi’r terfyn allyriadau ar gyfer y gwaith tanwydd ffosil, ei gapasiti cynhyrchu gosodedig a’r dyddiad y dechreuodd gynhyrchu neu y disgwylir iddo ddechrau cynhyrchu.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiadau i CANC mewn perthynas â system dal a storio carbon gyflawn, gan gynnwys i ba unedau cynhyrchu y dylai unrhyw esemptiad fod yn gymwys.

Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer cyflenwi hysbysiad allyriadau manwl, sef “hysbysiad allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau”, sy’n cynnwys allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau ar gyfer gwaith tanwydd ffosil, wedi eu cyfrifo’n unol â Rhan 2 o Reoliadau Safon Perfformiad Allyriadau 2015 a’r dulliau asesu a chyfrifo a ddefnyddir ar gyfer Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer sefydlu cynllun codi tâl gan Weinidogion Cymru i gael ei redeg gan CANC wrth gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 7 yn caniatáu i CANC ofyn am wybodaeth ychwanegol gan weithredwr gwaith tanwydd ffosil, neu weithredwr gwaith tanwydd ffosil cysylltiedig.

Mae rheoliad 8 yn caniatáu i CANC gyflwyno hysbysiadau gorfodi pan fo gweithredwr gwaith tanwydd ffosil wedi torri’r ddyletswydd terfyn allyriadau.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth fel y caiff CANC gyflwyno cosbau sifil, pan fo gweithredwr gwaith tanwydd ffosil wedi torri’r ddyletswydd terfyn allyriadau. Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar gosbau ariannol a rhaid i CANC roi sylw iddynt.

Mae rheoliad 10 yn darparu ar gyfer effaith cyfarwyddydau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 59(2) o Ddeddf Ynni 2013 i atal gweithrediad y ddyletswydd terfyn allyriadau dros dro.

Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer apeliadau yn erbyn hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau cosb sifil i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

Mae rheoliad 12 yn caniatáu i CANC gyhoeddi gwybodaeth mewn perthynas â chyflwyno hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau cosb sifil, cyhyd ag y bo unrhyw apêl wedi ei phenderfynu neu ei thynnu’n ôl, neu fod y terfyn amser ar gyfer cyflwyno apêl wedi mynd heibio.

Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth fel y caiff CANC orfodi hysbysiadau gwybodaeth, hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau cosb sifil drwy gael gorchymyn gan yr Uchel Lys.

Mae rheoliad 14 yn diwygio Rheoliadau’r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2012, er mwyn caniatáu ar gyfer datgelu a chyhoeddi gwybodaeth yn ôl yr angen er mwyn cyflawni swyddogaethau CANC o dan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 15 yn dwyn i rym yr Atodlen sy’n darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau gan Weinidogion Cymru a CANC o dan y Rheoliadau hyn. Rhoddir pwerau i CANC mewn rhan arall o’r Rheoliadau i ragnodi’r dull y caiff gweithredwyr gyflwyno hysbysiadau iddo.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid ystyriwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 

2015 Rhif 1388 (Cy. 137)

Trydan, CYMRU

Rheoliadau Safon Perfformiad Allyriadau (Gorfodi) (Cymru) 2015

Gwnaed                               15 Mehefin 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       16 Mehefin 2015

Yn dod i rym                      8 Gorffennaf 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 60 a 62(9) o Ddeddf Ynni 2013([1]), ac Atodlen 5 i’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safon Perfformiad Allyriadau (Gorfodi) (Cymru) 2015.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 8 Gorffennaf 2015.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Adroddiad Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr” (“Greenhouse Gas Emissions Report”) yw adroddiad y mae’n ofynnol i weithredwr ei gyflwyno gan Erthygl 67(1) o’r Rheoliad Monitro ac Adrodd([2]);

mae “allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau” (“EPS annual emissions”) i’w ddehongli yn unol â rheoliadau 7 ac 8 o Reoliadau Safon Perfformiad Allyriadau 2015([3]);

mae i “blwyddyn” yr un ystyr ag a roddir i “year” yn adran 61(1) o’r Ddeddf;

ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

ystyr “capasiti cynhyrchu gosodedig” (“installed generating capacity”), mewn perthynas â gorsaf gynhyrchu neu uned gynhyrchu, yw’r capasiti uchaf o ran cynhyrchu trydan (mewn MW) y  gellid gweithredu’r orsaf gynhyrchu honno neu’r uned gynhyrchu honno yn unol ag ef am gyfnod parhaus heb achosi difrod iddi (gan gymryd bod ffynhonnell yr ynni a ddefnyddir i gynhyrchu trydan ar gael yn ddi-dor);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ynni 2013;

mae i “ffrwd ffynhonnell” yr un ystyr ag a roddir i “source stream” yn Erthygl 3(4) o’r Rheoliad Monitro ac Adrodd;

ystyr “gorsaf gynhyrchu” (“generating station”) yw gorsaf sy’n cynhyrchu trydan;

ystyr “gwaith nwyeiddio cysylltiedig” (“associated gasification plant”) yw unrhyw waith—

(a)     sy’n cynhyrchu tanwydd o danwydd ffosil; a

(b)     y mae’r tanwydd a gynhyrchir gan y gwaith hwnnw’n cael ei ddefnyddio gan waith tanwydd ffosil perthnasol i gynhyrchu trydan;

ystyr “gwaith tanwydd ffosil perthnasol” (“relevant fossil fuel plant”) yw gwaith tanwydd ffosil y mae’r ddyletswydd terfyn allyriadau yn gymwys iddo o dan y Ddeddf neu uned gynhyrchu y mae’r ddyletswydd terfyn allyriadau yn gymwys iddi yn rhinwedd rheoliad 3 o Reoliadau Safon Perfformiad Allyriadau 2015;

ystyr “gweithredwr” (“operator”), mewn perthynas â gwaith tanwydd ffosil perthnasol yw’r person y mae’n ofynnol bod ganddo Drwydded Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr ar gyfer y gwaith tanwydd ffosil perthnasol;

ystyr “hysbysiad allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau” (“EPS annual emissions notification”) yw hysbysiad o dan reoliad 5;

ystyr “hysbysiad cosb sifil” (“civil penalty notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 9;

ystyr “hysbysiad dal a storio carbon” (“CCS notification”) yw hysbysiad o dan reoliad 4;

ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 8;

ystyr “hysbysiad gwybodaeth” (“information notice”) yw hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 7;

ystyr “hysbysiad terfyn allyriadau” (“emissions limit notification”) yw hysbysiad o dan reoliad 3;

ystyr “MW” (“MW”) yw megawat;

ystyr “MWth” (“MWth”) yw megawat o allbwn thermol;

ystyr “y Rheoliad Monitro ac Adrodd” (“the Monitoring and Reporting Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 601/2012 ar fonitro ac adrodd ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yn unol â Chyfarwyddeb 2003/87/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor([4]);

ystyr “y Rheoliadau CMANTG” (“the GGETS Regulations”) yw Rheoliadau’r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2012([5]);

ystyr “Trwydded Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr” (“Greenhouse Gas Emissions Permit”) yw trwydded a roddir o dan reoliad 10 o’r Rheoliadau CMANTG; ac

ystyr “uned gynhyrchu” (“generating unit”) yw unrhyw gyfuniad o eneraduron, boeleri, tyrbinau, neu brif symudwyr eraill sydd wedi eu cysylltu’n ffisegol fel un uned ac sy’n cael eu gweithredu gyda’i gilydd i gynhyrchu trydan yn annibynnol ar unrhyw uned arall.

Y ddyletswydd hysbysiad o derfyn allyriadau

3.(1) Os bodlonir unrhyw rai o’r amodau ym mharagraff (3) mewn perthynas â gwaith tanwydd ffosil perthnasol, rhaid i weithredwr y gwaith gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad terfyn allyriadau”) i CANC o fewn 31 diwrnod i’r dyddiad y bodlonir yr amod (neu os bodlonir mwy nag un amod, o fewn 31 diwrnod i’r dyddiad y bodlonir yr amod cynharaf).

(2) Rhaid i hysbysiad terfyn allyriadau nodi—

(a)     y terfyn allyriadau (mewn tunelli o garbon deuocsid) ar gyfer y gwaith tanwydd ffosil perthnasol, wedi ei gyfrifo yn unol ag adran 57(1) o’r Ddeddf ac fel y’i haddasir, os yn gymwys, gan reoliad 4 o Reoliadau Safon Perfformiad Allyriadau 2015;

(b)     capasiti cynhyrchu gosodedig y gwaith tanwydd ffosil perthnasol; ac

(c)     y dyddiad y dechreuodd y gwaith tanwydd ffosil perthnasol gynhyrchu trydan neu’r dyddiad y disgwylir iddo ddechrau gwneud hynny.

(3) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)     bod Trwydded Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr mewn perthynas â’r gwaith tanwydd ffosil perthnasol—

                           (i)    gan y gweithredwr ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;

                         (ii)    yn cael ei rhoi i’r gweithredwr ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym; neu

                       (iii)    yn cael ei hamrywio mewn perthynas â maint y capasiti cynhyrchu gosodedig y mae’r drwydded honno’n berthnasol iddo ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym; neu

(b)     yr addasir terfyn allyriadau’r gwaith tanwydd ffosil perthnasol gan reoliad 4 o Reoliadau Safon Perfformiad Allyriadau 2015.

(4) Rhaid cyflwyno hysbysiad terfyn allyriadau ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw ddull y caiff CANC yn rhesymol ofyn amdano.

Hysbysiad dal a storio carbon

4.(1) At ddibenion adran 58 o’r Ddeddf, rhaid i CANC beidio ag ystyried bod system dal a storio carbon gyflawn yn barod i’w ddefnyddio oni bai ei fod wedi derbyn hysbysiad gan y gweithredwr (“hysbysiad dal a storio carbon”) mewn cysylltiad â’r system.

(2) Rhaid i hysbysiad dal a storio carbon nodi—

(a)     pob uned gynhyrchu o fewn y gwaith tanwydd ffosil perthnasol y mae’r system dal a storio carbon gyflawn yn ymwneud â hi;

(b)     capasiti cynhyrchu gosodedig pob un o’r unedau cynhyrchu a nodir o dan is-baragraff (a); ac

(c)     y dyddiad y mae’r gweithredwr yn dymuno i’r system dal a storio carbon gyflawn gael ei hystyried yn barod i’w defnyddio.

(3) Rhaid i hysbysiad dal a storio carbon gael ei gyflwyno ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw ddull y caiff CANC yn rhesymol ofyn amdano.

Hysbysiadau allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau

5.(1) Os bodlonir yr amod ym mharagraff (2) mewn perthynas â gwaith tanwydd ffosil perthnasol, rhaid i weithredwr y gwaith gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau”) i CANC yn unol â pharagraffau (4) a (5).

(2) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw fod cyfanswm—

(a)     cyfanswm yr allyriadau carbon deuocsid ar gyfer y gwaith tanwydd ffosil perthnasol a adroddir mewn Adroddiad Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr wedi ei ddilysu; ac

(b)     os yn gymwys a phan nad yw wedi ei gynnwys fel arall yn y cyfanswm o dan is-baragraff (a), cyfanswm yr allyriadau carbon deuocsid y gellir ei briodoli’n uniongyrchol i gynhyrchu tanwydd a gynhyrchir gan danwydd ffosil mewn unrhyw waith nwyeiddio cysylltiedig a ddefnyddir gan y gwaith tanwydd ffosil perthnasol am yr un cyfnod â’r adroddiad,

yn uwch na therfyn allyriadau’r gwaith hwnnw ar gyfer y flwyddyn y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(3) At ddibenion paragraff (2)—

(a)     dim ond allyriadau carbon deuocsid sy’n gysylltiedig ag unedau cynhyrchu a adroddir mewn Adroddiad Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr wedi ei ddilysu sydd i’w cynnwys; a

(b)     ystyr “terfyn allyriadau” (“emissions limit”) yw’r terfyn allyriadau ar gyfer y gwaith tanwydd ffosil perthnasol wedi ei gyfrifo’n unol ag adran 57(1) o’r Ddeddf ac fel y’i haddaswyd, os yn gymwys, gan reoliad 4 o Reoliadau Safon Perfformiad Allyriadau 2015.

(4) Rhaid i hysbysiad allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau—

(a)     ddatgan allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau ar gyfer y gwaith tanwydd ffosil perthnasol am yr un cyfnod â’r Adroddiad Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr wedi ei ddilysu y cyfeirir ato ym mharagraff (2), ac at y diben hwnnw, rhaid cyfrifo neu fesur allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau yn unol â methodoleg y Rheoliad Monitro ac Adrodd;

(b)     adnabod ffrydiau ffynhonnell ar gyfer pob uned gynhyrchu yn y gwaith tanwydd ffosil perthnasol y mae’r ddyletswydd terfyn allyriadau’n gymwys iddi;

(c)     gael ei gyflwyno i CANC o fewn 10 diwrnod i gyflwyno’r Adroddiad Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr y cyfeirir ato ym mharagraff (2); a

(d)     gael ei gyflwyno ar unrhyw ffurf ac mewn unrhyw ddull y caiff CANC yn rhesymol ofyn amdano.

Taliadau

6.(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud ac, o bryd i’w gilydd, adolygu cynllun er mwyn i CANC godi ffioedd neu daliadau eraill am gyflawni swyddogaethau a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn (“cynllun codi tâl y Safon Perfformiad Allyriadau”).

(2) Caiff cynllun codi tâl y Safon Perfformiad Allyriadau, yn benodol—

(a)     gwneud darpariaethau gwahanol ar gyfer achosion gwahanol, gan gynnwys darpariaeth wahanol mewn perthynas â phersonau gwahanol mewn amgylchiadau neu ardaloedd gwahanol,

(b)     darparu ar gyfer yr adegau a’r modd y mae’n rhaid gwneud y taliadau sy’n ofynnol gan y cynllun, ac

(c)     gwneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol a throsiannol sy’n ymddangos yn briodol i Weinidogion Cymru.

(3) Ni chaiff CANC ond codi tâl am gyflawni’r swyddogaethau a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn fel y mae cynllun codi tâl y Safon Perfformiad Allyriadau’n ei ddarparu.

(4) Rhaid i weithredwr dalu tâl a osodir ar y gweithredwr o dan gynllun codi tâl y Safon Perfformiad Allyriadau a phan fethir â gwneud hynny—

(a)     rhaid trin yr hysbysiad y mae’r tâl yn ymwneud ag ef fel pe na bai wedi ei wneud; a

(b)     caiff CANC adennill gan y gweithredwr swm y tâl y mae’r gweithredwr yn methu â’i dalu fel dyled sifil.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod cynllun codi tâl y Safon Perfformiad Allyriadau ar gael yn gyhoeddus cyn iddo gael effaith.

Hysbysiadau gwybodaeth

7.(1) At unrhyw rai o’r dibenion a grybwyllwyd ym mharagraff (2), caiff CANC, drwy hysbysiad a gyflwynir i weithredwr neu weithredwr gwaith nwyeiddio cysylltiedig (“hysbysiad gwybodaeth”), ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw roi’r wybodaeth honno a nodir yn yr hysbysiad i CANC, ar y ffurf a nodir ac o fewn cyfnod a nodir ar ôl cyflwyno’r hysbysiad neu ar yr adeg honno a nodir.

(2) Y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)     ymchwilio pa un a yw’r gweithredwr wedi torri’r ddyletswydd terfyn allyriadau ai peidio;

(b)     ymchwilio pa un a yw gweithredwr wedi methu â chydymffurfio â’r naill neu’r llall neu’r ddwy ddyletswydd yn rheoliadau 3 a 5 ai peidio;

(c)     ymchwilio a yw system dal a storio carbon gyflawn yn barod i’w defnyddio; a

(d)     ymchwilio i unrhyw un o’r canlynol mewn perthynas â gwaith nwyeiddio cysylltiedig, at ddibenion cyfrifo allyriadau gwaith tanwydd ffosil perthnasol—

                           (i)    allyriadau carbon deuocsid y gwaith nwyeiddio cysylltiedig; a

                         (ii)    swm y tanwydd a gynhyrchir gan y gwaith nwyeiddio cysylltiedig ac a ddefnyddir gan y gwaith tanwydd ffosil perthnasol.

Hysbysiadau gorfodi

8.(1) Pan fo CANC o’r farn fod gweithredwr wedi torri’r ddyletswydd terfyn allyriadau, caiff CANC gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gorfodi”) i’r gweithredwr hwnnw.

(2) Ni chaniateir ond cyflwyno hysbysiad gorfodi mewn cysylltiad â thorri’r ddyletswydd terfyn allyriadau mewn perthynas â—

(a)     y flwyddyn y cyflwynir yr hysbysiad ynddi; neu

(b)     y flwyddyn flaenorol.

(3) Rhaid i hysbysiad gorfodi nodi—

(a)     barn CANC o dan baragraff (1);

(b)     y camau adfer y mae’n rhaid i’r gweithredwr eu cymryd mewn cysylltiad â thorri’r ddyletswydd; ac

(c)     erbyn pryd y mae’n rhaid cymryd y camau adfer a nodwyd o dan is-baragraff (b).

(4) Rhaid i’r amser a nodwyd o dan baragraff (3)(c) beidio â bod yn gynharach na 21 diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno’r hysbysiad gorfodi.

(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) a rheoliad 11, pan fo hysbysiad gorfodi wedi ei gyflwyno i weithredwr, rhaid i’r gweithredwr gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad gorfodi.

(6) Caiff CANC amrywio hysbysiad gorfodi ar unrhyw adeg drwy gyflwyno hysbysiad gorfodi arall i’r gweithredwr.

(7) Caiff CANC dynnu hysbysiad gorfodi yn ôl ar unrhyw adeg.

Hysbysiadau cosb sifil

9.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo CANC o’r farn fod gweithredwr wedi torri’r ddyletswydd terfyn allyriadau, caiff CANC gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad cosb sifil”) i’r gweithredwr hwnnw yn nodi’r gosb ariannol sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r toriad hwnnw.

(2) Rhaid i hysbysiad cosb sifil ddatgan—

(a)     sut y cyfrifwyd swm y gosb ariannol a osodwyd; a

(b)     erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid talu’r swm sy’n daladwy o dan yr hysbysiad cosb sifil yn llawn.

(3) Rhaid i’r gosb ariannol gael ei gosod ar lefel y mae CANC yn ystyried a fydd, os yn bosibl—

(a)     yn cael gwared ar unrhyw fudd i’r gweithredwr sy’n deillio o dorri’r ddyletswydd terfyn allyriadau;

(b)     yn deg; ac

(c)     yn gymesur.

(4) Caiff y gosb ariannol gynnwys swm sy’n gysylltiedig â’r costau yr aeth CANC iddynt yn rhesymol wrth ymchwilio ac asesu’r achos o dorri’r ddyletswydd terfyn allyriadau.

(5) Rhaid i weithredwr dalu’r swm sy’n daladwy o dan hysbysiad cosb sifil ac os nad yw’n cael ei dalu’n llawn erbyn y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad cosb sifil, caiff CANC adennill y swm sy’n daladwy gan y gweithredwr fel dyled sifil.

(6) Caiff CANC amrywio hysbysiad cosb sifil neu ei dynnu’n ôl cyn iddo gael ei dalu drwy gyflwyno hysbysiad arall i’r gweithredwr.

(7) Ni chaiff CANC osod cosb ariannol mewn cysylltiad â thorri’r ddyletswydd terfyn allyriadau mewn unrhyw flwyddyn a ddechreuodd fwy na 5 mlynedd cyn y flwyddyn y cyflwynir yr hysbysiad sy’n gosod y gosb.

(8) Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau (“Canllawiau cosbau’r Safon Perfformiad Allyriadau”) ar y dull o gyfrifo cosbau ariannol.

(9) Pan gyhoeddir canllawiau cosbau’r Safon Perfformiad Allyriadau, rhaid i CANC roi sylw i’r canllawiau hynny wrth gyfrifo swm y gosb ariannol i’w chodi.

(10) Cyn cyhoeddi canllawiau o dan baragraff (7), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â—

(a)     Gweinidogion yr Alban;

(b)     yr Ysgrifennydd Gwladol;

(c)     Adran yr Amgylchedd; a

(d)     unrhyw bersonau neu gyrff eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(11) Pan fo canllawiau cosbau’r Safon Perfformiad Allyriadau yn cael eu cyhoeddi, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau eu bod ar gael yn gyhoeddus cyn iddynt gael effaith.

(12) Caiff CANC nodi ym mha ddull ac ar ba ffurf y mae’n rhaid talu unrhyw swm y mae’n ofynnol ei thalu gan hysbysiad cosb sifil.

(13) Rhaid i unrhyw swm a dderbynnir gan CANC o dan y rheoliad hwn gael ei dalu i Gronfa Gyfunol Cymru.

Cyfarwyddydau o dan adran 59(2) o’r Ddeddf

10. Pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud cyfarwyddyd o dan adran 59(2) o’r Ddeddf, rhaid i CANC—

(a)     ymdrin â’r ddyletswydd terfyn allyriadau fel pe bai wedi ei hatal dros dro neu ei haddasu fel sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd; a

(b)     cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir arno gan y cyfarwyddyd.

Apeliadau

11.(1) Caiff gweithredwr apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn—

(a)     hysbysiad gorfodi; neu

(b)     hysbysiad cosb sifil.

(2) Rhaid gwneud apêl o fewn 28 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad sy’n destun yr apêl.

(3) Pan fo gweithredwr yn apelio o dan baragraff (1), caiff unrhyw hysbysiad gorfodi neu hysbysiad cosb sifil sy’n ddarostyngedig i’r apêl honno ei hatal dros dro hyd nes y bydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn penderfynu ar yr apêl yn unol â pharagraff (4).

(4) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf—

(a)     cadarnhau’r hysbysiad gorfodi neu’r hysbysiad cosb sifil;

(b)     rhoi cyfarwyddyd i CANC amrywio’r hysbysiad gorfodi neu’r hysbysiad cosb sifil neu dynnu’r naill neu’r llall yn ôl; neu

(c)     gosod unrhyw hysbysiad gorfodi neu hysbysiad cosb sifil arall fel y gwêl y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dda.

Cyhoeddi gwybodaeth

12.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff CANC gyhoeddi unrhyw ran o’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas â hysbysiad gorfodi neu hysbysiad cosb sifil ar neu ar ôl y diweddaraf o’r canlynol—

(a)     y diwrnod ar ôl i’r cyfnod ar gyfer gwneud apêl yn erbyn yr hysbysiad ddod i ben, os na wnaed unrhyw apêl; neu

(b)     penderfynu ar yr apêl neu dynnu’r apêl yn ôl, os gwnaed apêl.

(2) Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—

(a)     hunaniaeth y gweithredwr sy’n ddarostyngedig i’r hysbysiad gorfodi neu’r hysbysiad cosb sifil;

(b)     yn achos hysbysiad gorfodi, y camau adfer y mae’n ofynnol eu cymryd er mwyn unioni’r achos o dorri’r ddyletswydd terfyn allyriadau;

(c)     yn achos hysbysiad cosb sifil, y swm sy’n daladwy o dan yr hysbysiad cosb sifil; a

(d)     os yw’r hysbysiad wedi bod yn destun apêl o dan reoliad 11, canlyniad yr apêl honno.

(3) Rhaid i CANC beidio â chyhoeddi’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) mewn perthynas â hysbysiad gorfodi neu hysbysiad cosb sifil os—

(a)     canfyddir mewn apêl nad yw’r gweithredwr wedi torri’r ddyletswydd terfyn allyriadau; neu

(b)     os yw’r hysbysiad gorfodi neu’r hysbysiad cosb sifil wedi ei dynnu’n ôl.

Gorfodaeth gan yr Uchel Lys

13.(1) Os bydd gweithredwr yn methu â chydymffurfio â rhwymedigaeth berthnasol caiff yr Uchel Lys, o dderbyn cais gan CANC wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r “gweithredwr” gydymffurfio â’r rhwymedigaeth berthnasol.

(2) Ni chaiff CANC wneud cais i’r Uchel Lys am orchymyn o dan baragraff (1)—

(a)     os nad yw’r amser ar gyfer apêl yn ymwneud â’r rhwymedigaeth berthnasol wedi mynd heibio; neu

(b)     os oes unrhyw apêl yn ymwneud â’r rhwymedigaeth berthnasol heb ei phenderfynu.

(3) Ym mharagraff (1), mae “rhwymedigaeth berthnasol” (“a relevant obligation”) yn golygu unrhyw rwymedigaeth sydd wedi ei chynnwys mewn—

(a)     hysbysiad gwybodaeth;

(b)     hysbysiad gorfodi; neu

(c)     hysbysiad cosb sifil.

Diwygio’r Rheoliadau CMANTG

14.(1) Ar ddiwedd rheoliad 46(1)(a)(ii) o’r Rheoliadau CMANTG, ar ôl “;” hepgorer “or”.

(2) Ar ôl rheoliad 46(1)(a)(iv) o’r Rheoliadau CMANTG mewnosoder—

                    (iv)  necessary for the performance of the NRBW’s functions in Wales under the Emissions Performance Standard (Enforcement) (Wales) Regulations 2015.

Dogfennau

15. Mae’r Atodlen (dogfennau) yn cael effaith.

 

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

15 Mehefin 2015

                      ATODLEN        Rheoliad 15

Dogfennau

1.(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mae darpariaethau’r Atodlen hon yn gymwys i unrhyw ddogfen a gyhoeddir o dan y Rheoliadau hyn.

(2) Nid yw darpariaethau’r Atodlen hon yn gymwys i—

(a)     hysbysiad terfyn allyriadau;

(b)     hysbysiad dal a storio carbon; ac

(c)     hysbysiad allyriadau blynyddol y Safon Perfformiad Allyriadau.

2. Rhaid i ddogfen fod yn ysgrifenedig a bod wedi ei dyddio.

3. Mae dogfen a roddir i berson ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod gwaith i gael ei thrin fel pe byddai wedi ei rhoi ar y diwrnod gwaith nesaf.

4. Caniateir rhoi dogfen i berson drwy—

(a)     ei danfon i’r person hwnnw yn bersonol;

(b)     ei gadael yng nghyfeiriad cywir y person hwnnw;

(c)     ei hanfon drwy’r post neu ffacs i gyfeiriad cywir y person hwnnw;

(d)     ei hanfon drwy e-bost i’r person hwnnw; neu

(e)     ei chyflwyno drwy borth penodedig ar wefan y person hwnnw.

5. At ddibenion paragraff 4(a), rhoddir dogfen i—

(a)     corff corfforaethol, pan y’i rhoddir i berson sydd â rheolaeth o’r corff hwnnw neu sy’n ei reoli;

(b)     partneriaeth, pan y’i rhoddir i bartner neu berson sydd â rheolaeth o’r busnes partneriaeth neu sy’n ei reoli;

(c)     cymdeithas anghorfforedig, pan y’i rhoddir i berson sydd â chyfrifoldebau rheoli mewn cysylltiad â’r gymdeithas.

6. At ddibenion paragraff 4(d), rhoddir dogfen i—

(a)     corff corfforaethol, pan y’i hanfonir i gyfeiriad e-bost—

                           (i)    y corff corfforaethol, neu

                         (ii)    person sydd â rheolaeth dros y corff hwnnw neu sy’n ei reoli,

pan fo’r cyfeiriad hwnnw wedi ei ddarparu gan y corff hwnnw ar gyfer cynnal materion y corff hwnnw;

(b)     partneriaeth, pan y’i hanfonir i gyfeiriad e-bost—

                           (i)    y bartneriaeth, neu

                         (ii)    partner neu berson sydd â rheolaeth dros y busnes partneriaeth neu sy’n ei reoli,

pan fo’r cyfeiriad hwnnw wedi ei ddarparu gan y bartneriaeth honno ar gyfer cynnal materion y bartneriaeth honno;

(c)     cymdeithas anghorfforedig, pan y’i hanfonir i gyfeiriad e-bost person sydd â chyfrifoldeb rheoli mewn cysylltiad â’r gymdeithas, pan fo’r cyfeiriad hwnnw wedi ei ddarparu gan y gymdeithas honno ar gyfer cynnal materion y gymdeithas honno.

7. Caiff person, yn lle cyfeiriad cywir a fyddai’n gymwys fel arall, nodi cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig  lle y caniateir rhoi dogfennau i’r person hwnnw neu rywun ar ran y person hwnnw, a rhaid trin y cyfeiriad hwnnw yn lle hynny fel cyfeiriad cywir y person hwnnw.

8. Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cyfeiriad cywir” (“proper address”) yw yn achos—

(a)     corff corfforaethol, y swyddfa gofrestredig (os yw yn y Deyrnas Unedig) neu brif swyddfa’r corff hwnnw yn y Deyrnas Unedig;

(b)     partneriaeth, prif swyddfa’r bartneriaeth yn y Deyrnas Unedig;

(c)     unrhyw berson arall, cyfeiriad hysbys  diweddaraf y person hwnnw, sy’n cynnwys cyfeiriad e-bost;

(d)     unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig;

ystyr “diwrnod nad yw’n ddiwrnod gwaith” (“non-working day”) yw—

(a)     dydd Sadwrn neu ddydd Sul;

(b)     Noswyl Nadolig, Diwrnod Nadolig neu Ddydd Gwener y Groglith; neu

(c)     diwrnod sy’n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([6]) yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig,

a rhaid darllen “diwrnod gwaith” (“working day”) yn unol â hynny; ac

ystyr “porth penodedig” (“dedicated portal”) yw cyfleuster ar wefan person sydd wedi ei sefydlu er mwyn gallu cyfathrebu â’r person hwnnw’n electronig.



([1])           2013 p. 32.

([2])           Gweler y gofyniad mewn Trwydded Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr a fewnosodir yn unol ag Atodlen 4, paragraff 2(3)(b) o Reoliadau CMANTG.

([3])           O.S. 2015/933

([4])           OJ Rhif L 181, 12.7.2012, t. 30.

([5])           O.S. 2012/3038 sydd wedi ei ddiwygio gan O.S. 2013/1037, O.S. 2013/3135 ac O.S. 2014/3125.

([6])           1971 p. 80.